Contributed by: David Price
ALAW, - Hobed o Hilion. Pan oeddwn i'n fugail yn Hafod y Rhyd, A'r defaid yn dyfod i'r gwair a'r iraidd yd; Tan goeden gysgodol mor ddedwydd 'own i, Yn cysgu, yn cysgu, yn ymyl trwyn fy nghi; Gwelaf a welaf, af fan y fynnaf, Yno mae fy nghalon, efo hen gyfoedion Yn mwynhau y maesydd a'r dolydd ar hafddydd ar ei hyd. Pan oeddwn i gartref, fy mhennaf fwynhad Oedd naddu a naddu ar aelwyd glyd fy nhad; Tra 'm chwaer efo 'i hosan a mam efo carth, Yn nyddu, yn nyddu, ar garreg lān y barth, Deued a ddeuo, anian dynn yno, Hedaf yn fy afiaeth ar adenydd hiraeth I'r hen dy, glangynnes, dirodres, adewais yn fy ngwlad. Mae'r wennol yn crwydro o'i hannedd ddilyth, Ond dychwel wna'r wennol yn ol i'w hanwyl nyth; A chrwydro wnawn ninnau ymhell ar ein hynt, Gan gofio 'r hen gartref chwareuem ynddo gynt. Pwyso mae adfyd, chwerwi mae bywyd, Chwerwed ef a chwerwo, melus ydyw cofio Annedd wen dan heulwen yr awen a wena arnom byth.