Contributed by: David Price
ALAW, - Rhyfelgan Ap Ivan Bennaeth. Ar y mynydd rhodiai bugail, Gwelai 'r gelyn ac yn uchel, Bloeddiodd allan - "Llongau Rhyfel!" Yna clywai gorn y gād. Corn y gād! Dyna ganiad corn arswydion, Traidd ei ddolef trwy Blunlumon, Cawdor sydd yn galw 'i ddynion. Corn y rhyfel hollta 'r nefoedd, Tery arswyd trwy 'r mynyddoedd, Etyb creigiau pell y cymoedd Gorn y gād. Fel mae Draig hen Gymru 'n deffro Tan y amynydd yn ei hogo', Cerrig ateb sydd yn bloeddio, Chwythu 'n uwch wna corn y gād; Corn y gād! Meibion Berwyn ydynt barod, Llifant o'r mynyddoedd uchod, Duant y gwastadedd isod; Meirch i'r frwydyr gydgarlamant, Holl gleddyfau Cymru fflamiant, Mewn urdduniant, cydatebant Gorn y gād!