Contributed by: David Price
Y mae hen dôn wladol o'r enw Gofid Gwynan, ac un led dlos ydyw ar y cyfan, ond nid i gyd felly. Ysgrifennwyd y geiriau canlynol i'w canu arni, ond nid ydynt yn ymbriodi â'r alaw mor hapus ag y dymunwn. Dymunwn ddyweyd am y gân ganlynol, mai ychydig iawn o ddychymyg sydd ynddi, ond fy mod yn dyweyd fy mhrofiad oreu gallwn.
Mae John yn mynd i Loeger, A bore fory 'r a; Mae gweddw fam y bachgen Yn gwybod hynny 'n dda; Wrth bacio 'i ddillad gwladaidd, A'u plygu ar y bwrdd, Y gist ymddengys iddi, Fel arch ar fynd i ffwrdd. Mae ef yn hel ei lyfrau, I'r gist sydd ar y llawr; Yn llon gan feddwl gweled Gwychderau 'r trefydd mawr. Nis gwel e 'r deigryn distaw Ar rudd y weddw drist; Na 'r Beibl bychan newydd A roddwyd yn y gist. Yn fore, bore drannoeth, Pan gysgai 'r holl rai bach; Wrth erchwyn y gwelyau Mae John yn canu 'n iach. Carasai aros gartref, Ond nid oedd dim i'w wneyd - Fe gawsai aros hefyd, Pe b'asai 'n meiddio dweyd. I gwrdd y tren boreuol, Cyn toriad dydd yr a, - "Ffarwel, fy mhlentyn anwyl, O bydd yn fachgen da! Y nef a'th amddiffynno, Fy machgen gwyn a gwiw; Paid byth anghofio 'th gartref, Na 'th wlad, na 'th iaith, na' th Dduw."