Contributed by: David Price
Ar y ffordd rhwng y Waun a Glynceiriog, y mae ty fferm mawr, o'r enw Crogen Iddon. Bu brwydr dost yn yr ardal hon yn 1164, rhwng y Cymry, tan arweiniad Owen Gwynedd, a Harri II. Y mae ôl ei wersyll mewn amryw fannau ar yr Orsedd Wen, Bwrdd y Brenin - ac ar ran o'r mynydd perthynol i'r amaethdy y'm ganwyd ac y'm magwyd i.
ALAW, - Y Fwyalchen. Y frwydr aeth trosodd o'r diwedd, A baeddwyd y gelyn yn llwyr; A'r ser edrychasant ar Wynedd, A'r bore ddilynodd yr hwyr. 'R oedd yno ieuenctid yn gorwedd, Am sefyll tros Wynedd yn bur - Yn fore daeth mamau a gwragedd, I chwilio am feibion a gwyr. Fe ganai mwyalchen er hynny, Mewn derwen ar lannerch y gâd; Tra 'r coedydd a'r gwrychoedd yn lledu, Eu breichiau tros filwyr ein gwlad. Gorweddai gwr ieuanc yn welw, Fe drengodd bachgennyn gerllaw; Tra i dad wrth ei ochor yn farw, A'i gleddyf yn fyw yn ei law. Gan frodyr, chwiorydd, a mamau, Fe gasglwyd y meirwon ynghyd; Agorwyd y ffos ac fe 'i cauwyd, Ond canai 'r Fwyalchen o hyd. Bu brwydyr Maes Crogen yn chwerw, Gwyn fyd yr aderyn nas gwyr Am alar y byw am y meirw, Y bore ddilynodd yr hwyr.