Contributed by: David Price
Y mae y tri phennill hyn mewn rhan yn wreiddiol, ac mewn rhan yn gyfieithiedig. Daw meddyliau am y nefoedd Gydag awel wan y nawn, Gyda llanw'r môr fe ddeuant, Gan lefaru 'n felus iawn; Pan fo 'r mellt fel ser yn syrthio, Yn y storm gynhyrfus, gref - Pan fo 'r llong yn teimlo 'r creigiau, Daw meddyliau am y nef. Daw meddyliau am y nefoedd, I unigedd fforest goed, Ac i'r anial, lle nas tyfodd Un glaswelltyn bach erioed. Ar fynyddau 'r ia tragwyddol, Ac ar greigiau llymion, lle Bydd eryrod yn gorffwyso, Daw meddyliau am y ne. Daw meddyliau am y nefoedd I ynysig leia 'r aig, Lle mae 'r don yn gosod coron Gwrel wen ar ben y graig; Trwy holl gyfandiroedd daear, Glynnoedd dwfn, a bryniau ban, Pur feddyliau am y nefoedd Ddont eu hunain i bob man.