Contributed by: David Price
Achlysurwyd y penillion hyn gan eiriau ymadawol mam yr awdwr, pan oedd hi yn dychwelyd i Gymru, ar ol talu ymweliad iddo. Yn araf i safle 'r gerbydres gerllaw, Y rhodiai fy mam gyda'i phlentyn; I waelod ei chalon disgynnodd y braw, Pan welai y fan oedd raid cychwyn. Ymwelwodd ei gwefus - ei llygaid droi 'n syn, Rhy floesg oedd i roddi cynghorion; Fe'i clywais er hynny yn sibrwd fel hyn, - "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Canfyddodd fy llygad mewn dagrau 'n pruddhau, Gwir ddelw o'i llygad ei hunan; Hyn ydoedd am ennyd fel yn ei boddhau, Er nad fy nhristau oedd ei hamcan. Ond er fod cyfyngder yr ennyd yn gwneyd Atalfa ar ffrwd o gysuron, Mudanrwydd rodd gennad i'w hanadl ddweyd, - "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Nid son am gynllwynion y diafol, a'i fryd, Er ennill ieuenctid i'w afael - Nid son am ffolineb, a siomiant y byd, Yr ydoedd pan oedd yn fy ngadael; Dymunai 'n ddiameu bob lles ar fy nhaith, Trwy fywyd i fyd yr ysbrydion; Ond hyn oedd yr oll a ddiangodd mewn iaith, - "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." I eiriau dirmygus, dieithrol nid wyf, Mi wn beth yw llymder gwatwariaeth; Y munud diffygiwn dan loesion eu clwyf, Yn nesaf dro'i oll, yn ddieffaith Do, clywais hyawdledd - er teimlo ei rym, Mewn effaith ni lyn ei rybuddion; Ond hyn gan dynerwch fyth erys yn llym, - "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Mae ysbryd yr oes megis chwyddiad y môr, Yn chware â chreigiau peryglon; O'm amgylch mae dynion a wawdiant Dduw Ior, Wyf finnau ddiferyn o'r eigion; Fy nghamrau brysurant i ddinistr y ffol, Ond tra ar y dibyn echryslon Atelir fi yno gan lais o fy ol, - "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon." Pe gwelwn yn llosgi ar ddalen y nef, Y tanllyd lythrennau "NA PHECHA;" Pe rhuai taranau pob oes yn uu llef - "Cyfreithiau dy Dduw na throsedda;" Pe mellten arafai nes aros yn fflam, I'm hatal ar ffordd anuwiolion, Anrhaethol rymusach yw awgrym fy mam, - "Ti wyddost beth ddywed fy nghalon."