Contributed by: David Wood
Cwsg ni ddaw i'm hamrant heno, Dagrau ddaw ynghynt. Wrth fy ffenestr yn gwynfannus Yr ochneidia'r gwynt. Codi'i lais yn awr, ac wylo, Beichio wylo mae; Ar y grwydr yr hyrddia'i ddagrau Yn ei wylltaf wae. Pam y deui, wynt, i wylo At fy ffenestr i? Dywed im, a gollaist tithau Un a'th garai di?