Contributed by: David Wood
Bychan oedd yr Hen Fron 'r Erw, Eiddil, crwm; Cludodd trwy ei fywyd chwerw Faich oedd drwm. Dyna'i enw ar ei dyddyn, 'Cramen sâl': Ni fu'r perchen ddiwedd blwyddyn Heb ei dâl. Codai'n fore, gweithiai'n galed Hyd yr hwyr; Ni chadd llawer fwyd cyn saled, Nef a'i gw+yr. Am y rhent a'r mân ofynion Cofiai fyth; Ofnai weld cyn hir 'ryw ddynion' Wrth ei nyth. Ef, o bawb a welai huan Mawr y nef, Oedd y dinod waelaf druan Ganddo ef. Anair i'w anifail roddai Yn y ffair: Pob canmoliaeth a ddifoddai Gyda'i air. Ar ei gorff 'r oedd ôl y teithio Hyd y tir; Ar ei ddwylo ôl y gweithio, Oedd, yn glir. Iddo beth fuasai fyned Môn i Went, Os y gallai ef, oedd hyned, Hel y rhent? Mynd i'r capel, er y blinder, Fynnai ef; Ac ni chlywid sw+n gerwinder Yn ei lef. Hen bererin hoff Bron 'r Erw! Mae'n beth syn, Prin mae'n cofio am y berw Erbyn hyn.