Contributed by: David Wood
Awn allan, fwyn forynion, Fe ddaeth Gw+yl Ifan ddoeth, Boreddydd y Bedyddiwr gwyn Sy'n euro'r bryniau noeth. Awn allan efo'n gilydd I droed y Mynydd Mawr I rwymo'r llwdwn gwyn ei wlân A blodau teg eu gwawr. Cyn yfo'r haul y manwlith O gwpan-flodau'r waun, A chyn i'r tes a'i wridog wres Ymwibio'n ôl a blaen, Awn allan efo'n gilydd I droed y Mynydd Mawr I blethu grug yn gorlan glws Cyn iddi dorri'r wawr. Awn allan, fwyn forynion, Mae'r cloddiau'n wyrddion las, A'r adar glân yn ceincio cân Rhwng brigau'r brysglwyn bras. Awn allan efo'n gilydd. O awel, saf yn syn, I weled llun y crinllys cun Yn llonydd ddwfr y llyn. Awn allan yn gariadlon I droed y Mynydd Mawr, I ddisgwyl cân rhyw fugail glân Cyn agor dorau'r wawr. Awn, deuwn, efo'n gilydd, A dawnsiwn ar y bryn, Nes delo'r dydd i roddi'n rhydd Y gwlanog lwdwn gwyn.