Contributed by: David Wood
Yng nghanol dwndwr anfad gwlad y glo Mae imi hiraeth am Eryri wen, Yr Wyddfa fawr a'i chrib yng nglas y nen A'r bwthyn gwyn a'r mwsog ar ei do. Mi welaf borffor rug ar fryniau'r fro A rhedyn hydref yntau'n euraid len; O'm lludded pe cawn arnynt bwyso 'mhen Diflannai fy nhrallodion o fy ngho. Cawn orffwys a breuddwydio am y daith, Y more serch yn ardal Peris Sant, Hyd lwybrau'r gwyllt glogwyni yn y gwynt, Dan gysgod llaes y Lliwedd llwm a llaith: Yr aros dan y gromlech yn y nant A'r oslef swynol glywais yno gynt.