Contributed by: David Wood
Mae ynys werdd yng nghefnfor poen; Ac awel falm gwanwynol hoen Gusana'r blodau ar ei bron Yn sw+n galarnad prudd y don. Ar fron y nos mae seren gu; A deilen werdd ar ywen ddu; Yn oergri'r gwynt ceir goslef hedd; A blodyn gobaith dyf o'r bedd. Tywynna'r haul yng nglesni'r nen Pan ddua'r cwmwl gylch fy mhen; A heb gynddaredd tymestl gref Ni welid enfys yn y nef. Try barrug llwyd y cyfnos prudd Yn emau claer ar doriad dydd; A pherlau gloywa'r nefol wawr Fydd heilltion ddagrau'r cystudd mawr.