Contributed by: David Wood
'Gwrando, f'enaid, gwrando'n rhodd, Gwrando draethu'r sut a'r modd A'r gwir achos y rhois arnad Fy llwyr fryd a'm serch a'm cariad.' 'Doeth a gwir yw'r hen ddihabre: "Haws yw gwrando na rhoi ateb." Cymrwch gennad, doedwch ddigon, Byddwch siw gael byr atebion.' 'Cynta' man o'th gorff a hoffais, Y ddau dduon loywon lednais, Y rhain a ddichon ag un troad Lwyr iachu neu ladd dy gariad.' 'Bychan iawn yw gwraidd dy gariad O cynhwysi fo'n fy llygad: Hawsa man y medra'i guddio, Lleia'i sym, ond rheitia' wrtho.' 'Pwy ni chare'r ddwy ael feinion Sy'n cysgodi'r ddeurudd wynion, Lle mae'r rhosyn coch a'r lili Yn ymddangos dan ymberchi?' 'Odid fab a blan ei gariad Ar na grudd nac ael na llygad Ond ar feder, pan i mynno, Godi dw o gylch lle'i planno.' 'Y dedwyddwas a ga gennad Ar dy rudd i blannu'i gariad, Can brath dager yn ei galon A gode ddw o'r fath ffynnon.' 'Oddi wrth ddw a heilltion ddagre Ymadewais heddiw'r bore; Odid eilwaith cyn pen wythnos Na cha'u cyfwrdd nhw'n ddiachos.' 'Os natur d'w drwg a staenodd Y grudd glana' erioed a wenodd, Mi a ercha' i Dduw, a thithe'n ddiddrwg, Na ddelo d'w byth yn dy olwg.' 'Angharedig yw'ch damuniad O w sydd yn cynnig cariad - Peri im golli 'nagre heilltion, Rhyddid corff ac engdwr calon.' 'Anghredigrwydd, drwg newyddion, A mwg tost tan irgoed gleision A geir weithiau'n peri i'r merched, Medd a'u hedwyn, ollwng llyged.' 'Tan y coed erioed ni cherais, Na mwg tost, da'i gwn nas haeddais; Ond gw Duw a Mair pei digiwn Yn fy myw fy ngrudd ni sychwn.' 'Lle bo gw o wan gredinieth, O cyll un, fe chwilia am ddeubeth; Rhag eich enaid nedwch iddo Fynd i uffern am gam dybio.' 'Y mab, madde, ac mi addawa', Cyn diweddiad mis Gorffenna', O cha' i amser, modd a chyfle, Er mwyn f'enaid mi wna' 'ngore.' 'I'r glas lwyni cyll tan irddail Lle mae'r cnau'n brigdrymu'r gwiail Tyrd, a hel o'r cnau gwisga,' A chadw dair heb dorri'n gyfa.' O gofynnir pwy a'i canodd, Dic a merch erioed a garodd; 'Rwy' fel Indeg yn ynfydu Na alla'i henwi, ei chael na'i chelu.