Contributed by: David Wood
Brynygogarth Anghrediniaeth, gad fi'n llonydd, Onid e mi godaf lef O'r dyfnderoedd, lle'r wy'n gorwedd, Fry yn lān i ganol nef. Brawd sydd yno'n eiriol drosof, Nid wyf angof nos na dydd; Brawd a dyr fy holl gadwynau, Brawd a ddaw ā'r caeth yn rhydd. 'Chydig ffydd, ble'r wyt ti'n llechu? Cymer galon, gwna dy ran. Obaith egwan, ble'r wyt tithau? Tyn dy gleddau gyda'r gwan. Anghrediniaeth, cilia o'r llwybr, Phery'r frwydyr ddim yn hir; Er mai eiddil yw fy enw, Eto i gyd 'rwy'n ennill tir.