Contributed by: David Wood
Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant Eisteddai gwraig weddw yng nghanol ei phlant; Ar ieuaf ofynnodd wrth weld ei thristad “Mae’r nos wedi dyfod ond ble mae fy nhad?” Fe redodd un arall gwyneblon a thlws, I’w ddisgwyl ef adref ar garreg y drws; Fe welodd yr hwyrddydd yn cuddio y wlad A thorrodd ei galon wrth ddisgwyl ei dad. Y se+r a gyfodent mor hardd ag erioed, A gwenai y lleuad drwy ganol y coed; A’r fam a ddywedodd, ‘Mae’th dad yn y nef Ffordd acw, fy mhlentyn – ffordd acw mae ef.’ Mewn bwthyn diaddurn yn ymyl y nant, Ymddiried i’r Nefoedd mae’r weddw a’i phlant; Ni fedd yr holl gread un plentyn a wad Fod byd anweledig, os collodd ei dad.