Contributed by: David Wood
Ar D’wysog gwlad y bryniau, O boed i’r nefoedd wen, Roi iddo gyda choron, Ei bendith ar ei ben! Pan syrthio’r aurwialen Pan elo un i’r nef, Y nef a ddalio i fyny, Ei law frenhinol ef. Ei faner ef fo uchaf Ar goedwig fyw y mo+r! A’i liniau ef fo isaf, Wrth orseddfainc yr Io+r! Drychafer gorsedd Prydain, Yn nghariad Duw a dyn, Yn agos at orseddfainc, Y Brenin Mawr ei Hun!