Contributed by: David Wood
Breuddwyd y Frenhines Oedd gweld ei hun yn dlawd, Mewn bwthyn lle’r oedd gwe+n Ei mam, ei thad, a’i brawd. Gla+n oedd yr ystafell, A’i tha+n oedd ar y llawr, Ond nid oedd yno boen Na blinder ennyd awr. Plant a ganent wrth y drws, Ganiadau’r pentref llon, Ac fel y teimlai rhyw lawenydd Newydd yn ei bron; Ymddeffro ddarfu’r Brenin, A hithau’i deffro gadd: Breuddwydio’r oedd efe, Fod rhywun am ei ladd. Breuddwyd dynes arall Oedd yn dlawd yn wir, Oedd gweld ei hun trwy’i hun Yn aeres mo+r a thir; Llawn oedd ei hystafell O arian ac o aur, A choron ar ei phen o Fil o berlau clear, Pwy oedd debyg iddi hi, mor Hardd o bryd a gwedd? A hi a chwyddai pan yn edrych Ar ei swyddol sedd; A’i gw+r ddeffro+dd o’r diwedd Gan ddwedyd wrthi “Siân! Rhaid iti godi’n awr, Mae’n amser cynnau tân!”