Contributed by: David Wood
Haul! Haul! araul ei rudd, A gwawl boreuol dwyfol Dydd, Mae’n dod, mae’n dod, yn goch ei liw, Shecinah sanctaidd anian yw, Yn troi trwy ymerodraeth Duw! Mil o se+r o’i gylch sy’n canu megis adar ma+n Toddant yn ei wyneb, ac ymguddiant ar waha+n, Try’r wylaidd loer o’i w+ydd yn awr, Mae’n dod, mae’n dod ar donnau’r wawr, Fel llong o’r Tragwyddoldeb mawr! Gwawr! Gwawr! geinwiw ei grud, A gwawl boreuol dwyfol Dydd, Mae ei blanedau ffyddlon draw, Yn gwenu arno yn ddifraw: Gan ei longyfarch ar bob llaw. Hardd, hardd liwiau nofiant trwy’r cymylau dan ei traed Coch da+n mawr yw’r Wyddfa, dwfr y mo+r a dry yn waed: Try’r wylaidd loer o’i w+ydd yn awr, Mae’r haul yn dod ar donnau’r wawr, Fel llong o’r Tragwyddoldeb mawr!