Contributed by: David Wood
Clyw! Clyw! Foreuol glod, O! fwyned yw’r defnynnau’n dod, O wynfa la+n i lawr. Ai ma+n ddefnynnau ca+n, Aneirif lu ryw dyrfa la+n, Ddihangodd gyda’r wawr? Mud yw’r awel ar y waun, A brig y grug, yn esmwyth gry+n: Gwrando mae yr aber gain, Ac yn y brwyn ymguddia’i hun: Mor nefol serchol ydyw’r sain, Sy’n dod i swyno dyn. Cwyd, cwyd ehedydd, cwyd, O le i le ar aden lwyd. Yn uwch, yn uwch o hyd: Ca+n, ca+n dy nodau cu, A dos yn nes at lawen lu Adawodd boen y byd. Canu mae, a’r byd a glyw Ei alaw lon o uchel le: Cyfyd hiraeth dynolryw, A ôl ei lais i froydd ne’: Yn nes at Ddydd, yn nes at Dduw I fyny fel efe!