Contributed by: Douglas Smith
Coedmor (R. L. Jones, 1896-1953) Pan oedd Iesu dan yr hoelion yn nyfnderoedd chwerw loes, torrwyd beddrod i obeithion ei rai annwyl wrth y groes: cododd Iesu! Nos eu trallod aeth yn ddydd. Gyda sanctaidd wawr y bore, teithiai'r gwragedd at y bedd; clywid ing yn sw+n eu camre, gwelid tristwch yn eu gwedd: cododd Iesu! Ocheneidiau droes yn gān. Wyla Seion mewn anobaith, a'r gelynion yn cryfhau; gwelir myrdd yn cilio ymaith at allorau duwiau gau: cododd Iesu! i wirionedd gorsedd fydd.