Contributed by: David Wood
"Cariwch," medd Dafydd, "fy nhelyn i mi, Ceisiaf cyn marw roi to+n arni hi. Codwch fy nwylaw i gyrraedd y tant; Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant. "Neithiwr mi glywais lais angel fel hyn, 'Dafydd, tyrd adref a chwarae trwy'r glyn,' Delyn fy mebyd, ffarwél i dy dant; Duw a'ch bendithio, fy ngweddw a'm plant."