Contributed by: David Wood
Ebeneser (T. J. Williams) Dyma gariad fel y moroedd, Tosturiaethau fel y lli; T’wysog Bywyd pur yn marw, Marw i brynu’n bywyd ni; Pwy all beidio â chofio amdano? Pwy all beidio â chanu’r glod? Dyma gariad na â’n angof Tra bo nefoedd wen yn bod. Ar Galfaria yr ymrwygodd Holl ffynhonnau’r dyfnder mawr; Torrodd holl argaeau’r nefoedd Oedd yn gyfan hyd yn awr; Gras a chariad megis dilyw Yn ymdywallt yma ’nghyd, A chyfiawnder pur a heddwch Yn cusanu euog fyd. O ddyfnderoedd o ddoethineb! O ddyfnderoedd maith o ras! O ddirgelion anchwiliadwy, Bythol uwch eu chwilio i maes! Mae seraffiaid nef yn edrych Gyda syndod bob yr un Ar ddyfnderoedd cariad dwyfol – Duw yn marw dros y dyn!