Contributed by: David Wood
Eryri Wen, Frenhines bur, Daearol Ferch y ne', Mewn awyr las ac wybren glir, Ac yn dy sanctaidd le. Yn fab “y mynydd hwn” y’m gwnaed, I dy ofni er erioed; Mae ta+n yn rhedeg trwy fy ngwaed, Pan safwyf wrth dy droed! O’th gylch mae cestyll cedyrn mawr, Yn mynd yn friwsion ma+n; O’th gylch mae twrf tymhestloedd gawr, Yn rhuo’u gaeaf ga+n. Ond dyma gastell gododd Duw, Ag eira ar ei ben, I Annibyniaeth Cymru fyw Am byth, Eryri Wen.