Contributed by: David Wood
Rwy'n ddeg ar hugain oed Ac arna i chwant priodi Geneth ysgafndroed Fel Gwenno Penygelli Mae ganddi ddillad crand A mae hi'n eneth bropor A deg punt yn y banc Ar l ei modryb Gaenor. Mae gen i het Jim Cro Yn barod i fy siwrne A 'sgidie o groen llo A gwisg o frethyn cartre' Mae gen i dy yn llawn Yn barod i'w chroesawu A phedair tas o fawn A dillad ar fy ngwely. Mae gen i ddafad ddu Yn pori ar Eryri Chwiaden, cath a chi A gwartheg lond y beudy Mi fedraf dasu a thoi A chanu, a dal yr arad A gweithio heb ymdroi A thorri gwrych yn wastad. Roedd yno bwdin reis A hwnnw ar hanner berwi Y cwc wedi torri'i bys A cholli'r cadach llestri Cig y maharen du Yn wydyn yn 'i gymale Potes maip yn gry' A chloben o baste 'fale.