Contributed by: David Wood
Gwenllian fach, fy nghalon dlos, ’R wyt ti yn huno yn ddifraw, Gan ddal dy afal bach melyngoch yn dy law. Mae’th ruddiau annwyl fel y gwridog ros; Mae’th fron yn ddedwydd ddydd a nos, Ym myd y gofid O gwyn fyd t’wysoges ifanc yn ei chrud, Yn dal ei hafal bach ei holl o ofal byd. Mae gennyt frodyr yn y gad, Mae’th dad a’i gleddyf wrth ei glun, A thithau’n cysgu’n drwm, gan wenu trwy dy hun. Mae trwst y Norman dig yn crynu’r wlad, Beth w+yr yr engyl am dy dad? O am orffwyso’n ddedwydd iach, Mae breninesau uchel ach, A ro+i eu gorseddfainc am gwsg t’wysoges fach.