Contributed by: David Wood
Y lloer oedd yn codi dros gopa'r hen dderwen A'r haul a fachludai i ddyfnder y don, A minnau mewn cariad a'm calon yn curo Yn disgwyl f'anwylyd dan gysgod Llwyn Onn; Mor wyn y bythynnod gwyn galchog ar wasgar Hyd erchwyn cyfoethog mynyddig fy mro: Adwaenwn bob tyddyn, pob boncyff a brigyn Lle deuai cariadon i rodio'n eu tro. Mor hir y bu'r disgwyl o fore hyd nowsgyl, Mor gyndyn bu'r diwrnod yn dirwyn i ben: A minnau mor hapus, ac eto mor glwyfus, A'm meddwl a'm calon yn eiddo i Gwen: Cysgodion yr hwyr oedd yn taenu eu cwrlid, A hir oedd ymaros ar noson fel hon, Ond pan ddaeth fy nghariad cyflymai pob eiliad, Aeth awr ar amrantiad, dan gysgod Llwyn Onn. variant: 'erwau' is sometimes used instead of 'erchwyn' in line 6.