Contributed by: David Wood
Llys Aeron (L. J. Roberts) Canaf yn y bore, Am dy ofal cu; Drwy yr hirnos dywyll Gwyliaist trosof fi. Diolch iti, Arglwydd, Nid ateliaist ddim; Cysgod, bwyd a dillad, Ti a’u rhoddaist im. Cadw fi’n ddiogel Beunydd ar fy nhaith; Arwain fi mewn chwarae, Arwain fi mewn gwaith. Boed fy ngwaith yn onest, Rho im galon bur; Nertha fi i ddewis Rhwng y gau a’r gwir. Diolch iti, Arglwydd, Yw fy llawen gân; Canaf hyd nes cyrraedd Broydd Gwynfa lân.