Contributed by: David Wood
Fe lamodd y nos i'r wybrennau Lle gynnau 'r oedd golau claer wyn; Mae'r bryniau niwl ar eu pennau, A tharth hyd waelodion y glyn; Daw'r awel leddf, hir, fel uchenaid O galon ddofn, ddistaw y coed, A minnau, mae'r nos yn fy enaid Yn cofio ei hoed. Daw ysbryd y storm i gyfarfod minnau ar ganol y rhos; Ymdorchodd y fellten, a'i harfod Fel dydd rhwng dau eigion o nos; A rhwygodd y daran yr entrych - Rhwyg, adrwyg, llam, adlam a su - Chwardd dithau fy enaid Pan fentrych i ganol y rhu? Mae'r gwynt yn y pellter yn rhuo, Mae'n awr yn chwibanu'n fy nghlust; Rhag gwrthlam ei donnau, gan suo Daw'r glaw ar fy nhalcen yn byst; O! wynt, tro dy donnau amdanaf, A throch fi, di law, yn dy li, A dawnsiaf a chwarddaf a chanaf Eich angerdd gwyllt chwi!