Contributed by: David Wood
Mannheim (Hans Leo Hassler) Cof am y cyfiawn Iesu, Y Person mwyaf hardd, A’r noswaith drom anesmwyth Bu’n chwysu yn yr ardd; A’i chwys yn ddafnau cochion Yn syrthio ar y llawr: Bydd canu am ei gariad I dragwyddoldeb mawr. Cof am y llu o filwyr Â’u gwaywffyn yn dod I ddal yr Oen diniwed Na wnaethai gam erioed: Gwrandewch y geiriau ddwedodd, (Pwy allsai ond Efe?) ‘Gadewch i’r rhain fynd ymaith, Cymerwch Fi’n eu lle.’ Cof am yr wyneb siriol, Y poerwyd arno’n wir; Cof am y cefen gwerthfawr, Lle’r arddwyd cwysau hir; O! annwyl Arglwydd Iesu, Boed grym dy gariad pur Yn torri ’nghalon galed Wrth gofio am dy gur.