Contributed by: David Wood
Mentra, Gwen Amdanat ti mae so+n, Wennaf Wen, Wennaf Wen, O Fynwy fawr i Fo+n, Wennaf Wen: I’r castell acw heno, Rhaid iti droi a huno, Hen deulu iawn sydd ynddo, Da di mentra, mentra Gwen! O’th flaen mae mynydd maith, Wennaf Wen, Wennaf Wen, Gwell iti dorri’th daith, Wennaf Wen, Wel yn fy mraich gan hynny, Yr awn gan benderfynu, Fod yn y castell lety; Da di mentra, mentra Gwen! Fi piau’r castell hwn, Wennaf Wen, Wennaf Wen, Ti elli fyw mi wn, Wennaf Wen, Yn wraig yng Nghastell Crogen, I’w barchu ef a’i berchen; A chymer fi’n y fargen, Da di mentra, mentra Gwen!