Contributed by: David Wood
“Mi welais fy merch” medd Gruffudd ap Cynan, “Ar ddiwedd y wwledd, pam digiodd fy mun? Nis gwelais hi ’rioed mor brydferth yn unman, Caiff ddyfod yn o+l i’w haelwyd ei hun. Er pan ymgadawodd mae’m calon ar dorri; Angharad, fy nghoron, O maddau i mi.” “O nage,” medd Rhys, “nid eiddot mohoni, Nid merch i ti oedd, Merch Megan oedd hi.” Merch Megan a’i mam elent adref i odro Ac un fuwch bob un yw’r oll ar eu llaw; A cherbyd o aur arddunol ddaw yno, I ofyn am bwy, i Lys Aberfraw? Yn blentyn mabwysiad, pwy godwyd o’r werin, I Lys y t’wysogion yn heulwen ei fri, Sy’n fywyd a gwres wrth orsedd y brenin? Anrhydedd i’r tlawd, Merch Megan yw hi!