Contributed by: David Wood
Os yw fy annwyl gariad, Yn caru dwy neu dair; Ac yn eu cadw’n foddlon, Bob marchnad a phob ffair; O peidied yntau feddwl Fod hynny’n boen i mi, ’R wyf fi mor rhydd ag yntau, I garu dau neu dri. ’Phrioda’i ddim eleni, Chwedleua’i ddim a neb; Twyllodrus iawn yw meibion A fedrant ddweyd yn deg. Po deced bo nhwy’n gwedyd, O, gwaetha’i gyd y daw; Llawenydd pob merch ifanc Yw dewis ar ei llaw. Os oes rhyw dair neu bedair Yn hoff ohono ef; Mae gennyf innau bedwar Ar bymtheg yn y dref: Ond nhw sy’n gweyd fel yma, A nhw sy’n gweyd fel hyn; ’D wyf fi ond gwenu arnynt, A dal fy serch yn dyn. Fe we+d fy mod yn euog, Oherwydd gwrid fy moch; Os gwrida ef yn welw, Mi wrida innau’n goch. A gwedaf yn ei wyneb, A gwyneb dewr pob dyn; Llawenydd “Merch Melinydd,” Yw caru dim ond un.