Contributed by: David Wood
Myfi sy’n magu’r baban, Myfi sydd yn siglo’r crud; Myfi sy’n hwian, hwian, Yn hwian o hyd, o hyd Bu’n crio bore heddiw O hanner y nos tan dri, Ond fi sy’n colli cysgu, Mae’r gofal i gyd arnaf fi. Myfi sy’n magu’r plentyn, Bob bore a nawn a hwyr; Y drafferth sydd i’w ganlyn, Myfi, dim ond fi a’i gw+yr. Ni w+yr ef air o Saesneg, Nac un gair on’ heniaith ni: I ddysgu’r t’wysog bychan, Mae’r gofal i gyd arnaf fi. Ond os caf fi ei fagu I dyfu yn llencyn iach, Caiff iaith brenhinoedd Cymru Fod fyth ar ei wefus fach; A phan ddaw yntau’n frenin, Ac onid yng nghofio i, O cofied wlad y Cennin, Y wlad sydd mor annwyl i mi!