Contributed by: David Wood
Penparc (J. T. Rees) Ai am fy meiau i Dioddefodd Iesu mawr, Pan ddaeth yng ngrym ei gariad Ef O entrych nef i lawr? Cyflawnai’r gyfraith bur, Cyfiawnder gafodd Iawn; A’r ddyled fawr, er cymaint oedd, A dalodd Ef yn llawn. Dioddefodd angau loes, Yn ufudd ar y bryn; A’i waed a ylch yr Ethiop du Yn lân fel eira gwyn. Bu’n angau i’n hangau ni Wrth farw ar y pren; A thrwy ei waed y dygir llu, Trwy angau, i’r nefoedd wen. Pan grymodd Iesu ei ben, Wrth farw yn ein lle, Agorodd ffordd, pan rwygai’r llen, I bur drigfannau’r ne’. Gorchfygodd uffern ddu, Gwnaeth ben y sarff yn friw; O’r carchar caeth y dygir llu, Trwy ras, i deulu Duw.