Contributed by: David Wood
Serch hudol swyn, Sy’n llanw’r llwyn, Pan fo myrdd o adar mwyn, Yn canu yn y coed. Mae anian oll yn canu ’nghyd, ’D oes dim yn fyddar nac yn fud, Mae mwy o fiwsig yn y byd, Na thybiodd dyn erioed: Corau’r Wynfa wen, A ganant byth heb ddod i ben, Mae’r delyn aur gan deulu’r nen, Yng ngwyddfod Duw ei hun! Mae ca+n yn hedeg ar ei hynt, Yn sw+n y mo+r a llais y gwynt, Bu se+r yn bore’n canu gynt, Paham na chana dyn? Serch hudol yw, Pob peth sy’n byw, Yn y nef a daear Duw: O’r haul sy’n llosgi fry, I’r pryfyn ta+n, yr hwn a roed, I rodio’r clawdd a gwraidd y coed, I olau ar y llwybr troed, Sy’n arwain i dy dy+. Hardd yw llun a lliw, Pob peth a ddaeth o ddwylo Duw, I b’le’r a+ llygad dyn nad yw, Yng ngw+ydd y tlws a’r cain? Prydferthwch sydd yn llanw’r nef, A phob crëadur grëodd Ef, O’r eryr ar ei aden gref, I’r dryw sydd yn y drain!