Contributed by: David Wood
Mae llawer un yn cofio, Yr eneth fechan ddall: Ni welodd neb un fach mor fwyn, Mor brydferth a mor gall. Hi gerddodd am flynyddoedd, I ysgol Dewi Sant Ar hyd y ffordd, o gam i gam, Yn nwylo rhai o’r plant. ’R oedd gofal pawb amdani, A phawb yn hoffi’r gwaith, O helpu’r eneth fach ymlaen Trwy holl drofeydd y daith. Siaradai’r plant am gaeau, A llwybrau ger y lli Ac am y blodau tan eu traed, ond plentyn dall oedd hi. Hi glywai felus fiwig Yr adar yn y dail; Hi deimlai ar ei gwyneb bach, Belydrau serch yr haul; Aroglai flodau’r ddaear: Ond, nis adwaenai’r fun Mo we+n yr haul, a mwy na’r oll Mo we+n ei mam ei hun. Mae’r plentyn wedi marw, Ar wely angau prudd, Hi wenodd ar ei mam gan ddweyd “Mi welaf doriad dydd!” Ehedodd mewn goleuni, Oddiwrth ei phoen a’i phall; A gweled golygfeydd y nef, Y mae yr Eneth Ddall!