Contributed by: David Wood
Ymgrwydra y gwynt megis anadl Iôr, O fynydd i fynydd, o fôr i fôr; Ei delyn yw'r goedwig, ei deml yw'r graig, A chartref ei urddas yw gwyneb yr aig. Mae'n wylo fel yr wyla dyn, Ei chwiban sydd fel isel gri, Ac alaw leddf ei gwyn ei hun Atebir gan ein calon ni. Pruddaidd ganu, tyner ganu, Glywir gennym yn ei su. Ond dyma y corwynt o fangre'r gogleddwynt, Yn rhuo fel taran yn wallgof ei anian, Cedrwydd ddiwreiddir yn ddaear a siglir, A'r eigion, ei donnau fel mawrion y mynyddau Ymchwydda, ymferwa, A'r cread atseinia! Pan fyddo y dymestl yn uchder ei hynt Yn arllwys anthemau ei lywydd y gwynt. Ymgrwydra y gwynt megis anadl Iôr O fynydd i fynydd, o fôr i fôr; Ei delyn yw'r goedwig, ei deml yw'r graig, A chartref ei urddas yw gwyneb yr aig.