Contributed by: David Wood
Caradog eilw’i ddeiliaid, Ag utgorn ar ei fant; Fe ruthrodd y Siluriaid, Cwympasant yn y pant. Enciliodd arwyr enwog: Ond ar y march a+’r gwddw brith, Fe ddaw’r Frenhines deg i’w plith, I edrych am Garadog. Fe welodd y Rhufeiniaid, Y march a+’r gwddw brith: Ond gwelodd y Brythoniaid, Frenhines yn eu plith. Mae’r corn yn ail-utganu, Brythoniaid yn eu holau dro+nt, Rhufeiniaid yn eu holau ffo+nt O flaen cleddyfau Cymru.