Contributed by: David Wood
Hen Fynach Du Caerlleon Gawr, Yn gwrando clychau’r ddinas fawr; Ding, dong, ding, dong, ding, dong, A rodiai hyd y muriau’n syn, Gan ddwedyd wrtho’i hun fel hyn, O! pa hyd mewn gefynnau tyn, Cedwir ef ein brenin cu, Yn ei garchar oer a du, Nos a dydd i wrando’n brudd; Ding, dong, ding, dong, ding, dong Ai cnul ein Hannibyniaeth yw? O ga+d i Ryddid eto fyw, Trwy holl Gymru wen O Dduw! Mae llawer tro ar fyd er hyn Er pan glywai’r mynach syn, Ding, dong, ding, dong, ding, dong, Ar lannau’r Ddyfrdwy ar bob pryd; O ddydd i ddydd hyd ddiwedd byd, Y mae’r clychau’n fyw o hyd. Hyd y muriau megis gynt, Yn cydgwynfan gyda’r gwynt, Yn ein clyw su oesol yw; Ding, dong, ding, dong, ding, dong; ’D oes neb am frenin heddiw’n brudd, Ond fel yr hedydd doriad dydd, Y mae holl Gymru wen yn rhydd.