Contributed by: David Wood
Trigai gwraig bur gysglyd gynt, Yn Llan Mathafarn Eithaf, Bloeddiai’r gw+r nes colli’i wynt, Hi gysgai er ei waethaf: “Hei ho! medd hi, fel teisen gri, Medd yntau, wedi sorri; Os nad wyt sa+l, cwyd o dy wa+l, Neu aros tan yfory!” Twr o blant am ddeg o’r gloch, Ddechreusant sw+n a chyffro; ’Gwedi bloeddio creulon croch, Medd hithau’n hanner effro: “Am saldra’n awr, nis gwyddoch fawr,” Medd yntau “gwn o’re gore, Dylyfu ge+n yw’th saldra hen, A’th glefyd di bob bore.” Yna gw+r y wraig ddifudd, Darawyd gan y clefyd; Cysgai’r plant tan hanner dydd, A chysgai yntau hefyd! Ddo’r un o’i glwyd i’w fore fwyd, Na chynnau ta+n y bore; Ac felly siw+r, y wraig a’r gw+r, Wnaent gysgu am y gore.