Contributed by: David Wood
Yn iach iti Gymru, ffarwèl i’th fynyddoedd, Dy nentydd grisialog a’th ddolydd di-ail; Y coedydd lle treuliais fy ieuanc flynyddoedd, Lle gwyliais agoriad y blodau a’r dail! Mae’r llong yn y porth yn disgwyl amdanaf, O gwae imi feddwl ymadael erioed; Ffarwèl o’r holl famau, y buraf, a’r lanaf, A’m cartref gwyn annwyl yng nghanol y coed! Fy nwylo ddychwelant yn llawn neu yn weigion I agor drws annwyl fy nghartref gwyn draw. Mae’r afon yn sisial yng nghlust yr hen eigion, Gan ofyn pa ddiwrnod yn o+l a fi ddaw! O! am dy hen awyr i wrido fy ngruddiau, A’m hwian fel plentyn i huno mewn hedd; A phan y gadawaf hen fyd y cystuddiau, Rhwng muriau’r hen fynwent O torrwch fy medd.