Contributed by: David Wood
Trawsganu Kynan Garwyn - Llyfr Taliesin #45 Kynan kat diffret am arllofeis ket. kanyt geu gofyget. Gwrthelgwn trefbret. kant gorwyd kyfret aryant eu tudet. Cant llen ehoec o vn o vaen gyffret. Cant armell ym arffret. A phympwnt cathet. Cledyf gwein karrec dyrngell gwell honeb. cant kynan kaffat. kas anwelet katellig ystret. kat anyscoget. kat ar wy kyrchet. gwaywawr ebrifet. Gwenhwys a ladet. A lafyn gwyarlet. kat ymon mawr tec. erglyt a molet. Tra menei mynet gworwyd a gworgret. kat yg cruc dymet. aercol ar gerdet. Nac ny rywelet. y biw rac ffriw neb. Mab brochuael brolet. Eidywet eidunet. kernyw kyfarchet. ny mawl ieu tyghet. Dystwc aghyffret ynyd am iolet. Myg kynnelw o gynan. kadeu ergynnan. Aeleu fflam lydan. kwfwyrein mawrtan. kat ygwlat brachan. katlan god aran. Tegyrned truan crinyt rac kynan. lluryc yn ymwan. eissor llyw heechan. kyngen kymangan. nerthi athwlat lydan. kigleu ymdidan. pawb yny gochvan. kylch byt gwochuan. keith ynt gynan.