Contributed by: David Wood
Yspeil Taliessin - Llyfr Taliesin #62 Eg gwrhyt gogyueirch yn trafferth gwaetwyf a wellwyf yn kerth wir. gweleis i rac neb nym gweles pop annwyl. ef diwyl y neges. Gweleis i pasc am leu am lys. Gweleis i deil o dyuyn adowys. Gweleis i keig kyhafal y blodeu. Neur weleis vd haelhaf y dedueu. Gweleis i lyw katraeth tra maeu bit vy nar nwy hachar kymryeu Gwerth vy nat mawr uyd y uud y radeu pen maon milwyr am de. preid lydan pren onhyt yw vy awen gwen yscwydawr y rac glyw gloyw glas gwen glew ryhawt glewhaf vn yw vryen. nym gorseif gwarthegyd. gordear goryawc gorlassawc gorlassar goriaga gordwyre. Pop rei sag dilew du merwyd ymordei vd tra blawd yn yd el oth vod. Vared melynawr yn neuad maranhedawc diffreidawc yn aeron. mawr y wyn y anyant. Ac eilon mawr dyfal ial am y alon. mawr gwrnerth ystlyned vrython. mal rot tanhwydin dros eluyd. mal ton teithiawc llwyfenyd. mal kathyl kyfliw gwen a gweithen Val mor mwynauawr yw vryen. Vn y[w] egin echangryt gwawr. Vn yw rieu rwyfyadur a dyawr. Vn yw maon meirch mwth miledawr. dechreu mei ym powys bydinawr. Vn yw yn deuwy pan ofwy y weirin. eryr tir tuhir tythremyn. Adunswn y ar orwyd ffysciolin. tut ynyeil gwerth yspeil taliessin. Vn yw gwrys gwr llawr a gorwyd. Vn yn breyr benffyc y arglwyd. Vn yn hyd hydgre yn diuant. Vn yn bleid banadlawc anchwant. Vn yn gwlat vab eginyr. Ac vn wed ac vnswn katua ketwyr vnswn y drwc yieaian. A cheneu a nud hael a hirwlat y danaw. Ac os it yt wydif ym gwen ef gwneif beird byt yn llawen. kyn mynhwyf meirw meib gwyden gwaladyr gwaed gwenwlat Vryen.