Contributed by: David Wood
Medraf ganu ffarwel I'r mynyddoedd mawr; Medraf beidio â disgwyl Tlysni'r hwyr na'r wawr. Nid oes arnaf hiraeth Am na choed na lli; Ac nid ydyw'r Gwyliau Fawr o bwys i mi. Er nad wyf ond ifanc, Gwn am waetha'r byd, Ac mi fedraf ganu Ffarwel iddo i gyd - Medraf, unrhyw bryd. Nid yw tragwyddoldeb Yntau'n poeni 'mron - Pam yr ofnaf hwnnw Mwy na'r foment hon? Ond mae arnaf arswyd Canu'n iach ag un, - Arswyd gadael honno Yn y fath fyd ei hun. O, na fedrem groesi Freichfraich dros y lli, Minnau'n marw'r marw Bennwyd iddi hi - F'annwyl unig i!