Contributed by: David Wood
Os carit gael gorweddfa glyd Ymhell o ddwndwr byd a'i drin, Ar lan murmurog afon ferth A choed yn berth ar ei dwy fin; Pa le cait lannerch fai mor gu A mynwent fechan Cwmwr Du? Hwy wedant, - cwsg y byw yn well Heb fod ymhell o si rhyw don, Pan ddeffry miwsig pêr y llif Ddi-rif freuddwydion tan y fron: Nis gwn, ond pwy na charai fedd Lle chwery'r ffrwd ei salm o hedd? Fe grwydra haf awelon pêr Trwy lathraidd dderw'r allt sy draw, Pob dalen yn cyd-odli'n fwyn Ar gainc pob llwyn a'r ffrwd islaw; Ac weithiau yn y gaeaf trwm Ysguba'r corwynt trwy y cwm. Mae masnach ar ei diwyd daith, A dyfais dyn ar waith o hyd, Newidia llawer man ei wedd, Anurddir heddwch bore byd; Ond yma, pe dôi'r hen ar hynt, Caent bob peth agos megis cynt. 'R oedd yma fwci 'stalwm byd, Pan oedd y rhyd heb bont yn groes, Dyn yn grogedig wrth ei draed, - Fe rewai'r gwaed weld y ddwy goes; Pan godwyd pont ar Gloidach ddu, Fe aeth y bwci gyda'r lli. Yn iach, fwcïod! Dilys yw Na flinwch chwi mo'r byw yn hwy; Dydd eich gwasanaeth ddaeth i ben, O dan y llen gorffwyswch mwy; Dyn ni chaiff aros yn ei nyth, - A roir i chwi deyrnasu byth? O fewn i'r unig wyrddlas bau, Yn pe fwynhau eu holaf hun, Mae 'chydig o gyfeillion hoff, Heb faen i goffa am yr un; Ond am eu gwa rinweddol foes Fe bery'r cof o oes i oes. Fe orffwys yna'r athro mad, Na lechai brad o dan ei fron; A lle y gweli newydd fedd, Mewn tawel hedd, yn awr mae'r hon A fu gymhares yn ei gôl, A'i henw'n hyfryd ar ei hôl. Heddwch i'w llwch! a doed y pryd Pan gaffwyf gyda mynwes iach Ymweled weithiau a'r hen fro, A rhoddi tro trwy'r fynwent fach, A chydaddoli gyda'r llu Yng nghapel bychan Cwmwr Du.