Contributed by: David Wood
'R wy'n edrych dros y bryniau pell Amdanat bob yr awr; Tyrd, fy Anwylyd, mae'n hwyrhau A'm haul bron mynd i lawr. Tro fy nghariadau oll i gyd 'Nawr yn anffyddlon im; Ond yr wyf finnau'n hyfryd glaf O gariad mwy ei rym. Cariad na 'nabu plant y llawr Mo'i rinwedd nac mo'i ras, Ac sydd yn sugno'm serch a'm bryd O'r creadur oll i maes. O gwna fi'n ffyddlon tra fwy' byw A'm lefel at dy glod, Ac na fo pleser fynd a 'mryd A welwyd is y rhod. Tyn fy serchiadau'n gryno iawn Oddi wrth wrthrychau gau At yr un gwrthrych ag sydd fyth Yn ffyddlon yn parhau. 'Does gyflwr tan yr awyr las 'Rwy' ynddo'n chwennych byw; Ond fy hyfrydwch fyth gaiff fod O fewn cynteddau'm Duw. Fe ddarfu blas, fe ddarfu chwant At holl bwysau'r byd; Nid oes ond gwagedd heb ddim trai Yn rhedeg trwyddo i gyd.