Contributed by: David Wood
Anweledig, 'r wy'n dy garu, Ac ni fedda' i yn y byd Wrthrych alla' i bwyso arno, Wrthrych da rhoi iddo 'mryd; 'Does fy lleinw O bob pleser ond dy hun. Ti'm harweiniast o'r creadur Ar hyd llwybrau geirwon iawn; Ni ches lonydd gyda 'mhleser Fyth na bore na phrynhawn; Yn yr anial Dwedaist eiriau wrth fy modd. 'R wyf yn fodlon i'th geryddon, Pan 'nabyddwyf mai dy lais Sy'n fy nwyn o blith y llewod, O bob gormes, o bob trais; Gwell ni diliau Yw deniadau geiriau'r nef. 'Chlywodd clust, ni welodd llygad, Ac ni ddaeth i galon dyn Erioed feddwl na dychymyg Y fath ydwyt ti dy hun; Rhagor decach Wyt nag welodd nef na llawr. Ac 'r wyf finnau yn dy garu Uwch a welais eto erioed, Uwch a glywais sôn amdano, Neu ynteu a ddychmygais fod; Dyma fflamau Perffaith, mwyn trigannau'r nef.