Contributed by: David Wood
Rwy'n hoff o rodio hyd ei lan I wrando ar ei gân, Ac aros am ryw ennyd fer I gasglu cregyn mân. Melysach miwsig im nid oes Na miwsig dwfn y lli; Ei ddyfnder eilw, ddydd ar nos, Ar ddyfnder f'enaid i. A syllaf draw i orwel pell Ei gyfrinachau ef, I'r fan lle gwelir glas y môr Yn un â glas y nef.