Contributed by: David Wood
Gwelais di ar fore o wanwyn Yn ymgodi o dy nyth. Wrth dy wrando'n canu, tybiais Na ddychwelet yno byth. Cymyl gwynion - llwyni'r nefoedd - Wedi mynd â'th fryd yn llwyr. Llwyni gwyrddion - cymyl daear - Yw dy gartref yn yr hwyr. Hiraeth am y lasnen dyner Aeth â thi i fro y wawr. Hiraeth am y nyth a'r cywion Eilwaith ddaeth â thi i lawr.