Contributed by: David Wood
Cofiaf im dy wylio'n troelli Uwch anniddig ferw'r don, Gwawl machludiad oedd yn twynnu Nes goreuro'th gannaid fron. Rhydd a gwamal, troelli beunydd Mor ddiflino'r oeddit ti. Do, disgwyliais mai gorffwyso Wnaet ar fynwes oer y lli. Chwim ac ebrwydd ymaith hedaist A'th adenydd uwch y lli Fel y dwylo gwynion welais Gynt yn canu'n iach i mi.