Contributed by: David Wood
Ynghanol môr fy mywyd i Mae Ynys fechan, braf, Ac yno weithiau gyda'r nos Yng nghwch fy Hiraeth af. Awelon Atgo' feichia'r hwyl Nes mynd o'r hwyl ar led: Dros donnau'r dagrau gyda'r nos Y cwch yn rhugl red. Ni flina'r môr gofleidio hon Â'i freichiau gwynion, hir; 'Does ond myfi a thonnau'r môr W+yr am y Sanctaidd Dir.